Teithiwr yn mwynhau encil penwythnos!
Cyhoeddwyd: 11 Gorffennaf 2012
Enillodd un teithiwr lwcus wobr yn ddiweddar gan Faes Awyr Caerdydd, mewn partneriaeth gyda Shop Ddi-doll a Di-dreth Nuance, sef gwyliau moethus i ddau am benwythnos yng Ngwesty 5* y Celtic Manor.
Gwahoddwyd teithwyr oedd yn hedfan drwy Faes Awyr Caerdydd, a fu’n siopa yn y siop ddi-doll, i gystadlu mewn cystadleuaeth i ennill y penwythnos moethus, a dewiswyd yr enillydd, Mr Owen Gallagher, o blith y cynigion.
Roedd Mr Gallagher, sy’n wreiddiol o’r Alban ac sy’n gweithio yng Nghastell Nedd, yn dychwelyd i’r maes awyr yn dilyn ymweliad busnes ag Amsterdam pan glywodd y newyddion da ac meddai: “Roedd yn dipyn o syndod pan gefais yr alwad ffôn yn fy hysbysu ‘mod i wedi ennill y wobr yma, ac rydw i’n ysu i drefnu’r ymweliad â’r Celtic Manor er mwyn manteisio ar y cyfleusterau golff a sba anhygoel sydd gan y gwesty.”
Ychwanegodd Spiro Vella, Rheolwr Nuance ym Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o gael cyflwyno’r wobr yma i un o’n cwsmeriaid, gan obeithio y bydd ef a’i westai yn mwynhau eu harhosiad yn y gwesty i’r eithaf.
Rydym yn gobeithio gweld Mr Gallagher yn teithio drwy’r maes awyr eto yn y dyfodol agos, er mwyn iddo roi hanes ei benwythnos i ni, a hefyd hoffem ddiolch o bawb a ymgeisiodd yn y gystadleuaeth.”
Mae Shop Ddi-doll a Di-dreth Nuance wedi’i lleoli yn lolfa ymadael Maes Awyr Caerdydd, ac mae’n cynnig arbedion gwych ar nwyddau adnabyddus iawn. Cliciwch yma er mwyn cael bargeinion a chynigion arbennig wrth siopa yn y maes awyr.
Pennawd y llun: Steve Hodgetts, Cyfarwyddwr Cynllunio a Masnach Maes Awyr Caerdydd (chwith) a Spiro Vella, Rheolwr Nuance (dde) yn cyflwyno’r wobr i Mr Gallagher (canol) y tu allan i Faes Awyr Caerdydd.