Cardiff Airport

Newyddion

Cosmos launch May12

Y daith o Gaerdydd i Fflorida yn dechrau!

Cyhoeddwyd: 31 Mai 2012

COSMOS HOLIDAYS YN DATHLU’R DAITH GYNTAF I ORLANDO O FAES AWYR CAERDYDD

Ar ddydd Llun 28 Mai, dathlodd y cwmni teithiau annibynnol mwyaf yn y DU, Cosmos Holidays, ynghyd â Maes Awyr Caerdydd, ymadawiad plygeiniol yr awyren gyntaf i hedfan i Faes Awyr Orlando Sanford gan nodi dechrau rhaglen hedfan yr haf. Yn cael eu gweithredu gan y chwaer gwmni awyrennau,  Monarch, ar awyren A330, bydd y teithiau uniongyrchol yn digwydd rhwng 28 Mai a 20 Awst bob pythefnos.

I sicrhau fod pawb mewn hwyliau gwyliau cyn y daith, cafodd y teithwyr eu croesawu ger y gât gan grŵp lleol o Godwyr Hwyl Americanaidd, y ‘Cardiff Snakecharmers’. Yn ymuno yn yr awyrgylch hwyliog roedd Gary Anslow o Cosmos Holidays a Spencer Birns, Debra Barber a Margaret James o Faes Awyr Caerdydd a oedd ar gael i gynnig brecwast Americanaidd o bopgorn a myffins i’r teithwyr.

Mae’r teithiau uniongyrchol yn cynnig dewis eang o opsiynau gwyliau gan gynnwys gwyliau pecyn, hedfan a gyrru neu hedfan yn unig.  Mae prisiau gwyliau pecyn Cosmos am 14 noson i’r dalaith boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn dechrau o £319 y pen yn seiliedig ar bedwar o bobl yn rhannu fflat un llofft ar sail hunan arlwyo. Mae prisiau hedfan yn unig am 14 noson yn dechrau o £339 y pen yn y dosbarth economi neu o £499 yn y dosbarth premiwm ar y daith sy’n gadael ar 25 Mehefin 2012.

Lansiodd Cosmos ei raglen wyliau i Fflorida yn 2013 o Faes Awyr Caerdydd trwy gynnig i bobl oedd yn archebu’n gynnar nifer o fargeinion arbennig. Mae’r cynigion yn cynnwys blaendal isel o £75 y pen, uwchraddio i logi car am ddim,  yswiriant teithio am ddim i blant a thocyn mynediad i lolfa’r maes awyr am ddim os archebir cyn 31 Gorffennaf 2012 (amodau a dyddiadau’n berthnasol).  Mae’r dewis o gynigion Disney yn cynnwys cynnig pryd am ddim mewn sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun os archebir cyn 10 Gorffennaf 2012 neu docyn 14 diwrnod Disney am bris un 7 diwrnod – ar gael os archebir cyn  3 Rhagfyr 2012.  Mae tocynnau ymlaen llaw ar gael ar gyfer parciau thema yn seiliedig ar y 3 pharc  SeaWorld/Busch Gardens/Aquatica o £85 yr oedolyn.  Mae Monarch Premium ar gael o gyn lleied â  £99 y pen.

Meddai Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o weld teithiau uniongyrchol i Fflorida yn dychwelyd i Gaerdydd. Bu’r galw yn y gorffennol gan ddefnyddwyr am wasanaeth i Orlando o Gaerdydd yn anferth, ac rydym yn falch fod  Cosmos wedi penderfynu cynnig y gwasanaeth yma eto i deithwyr Cymreig o’u maes awyr lleol.

Ychwanegodd Gary Anslow, Cyfarwyddwr Gwerthiant Cosmos:  “Gydag atyniadau newydd a reidiau parciau thema yn agor yn rheolaidd, mae’r lleoliad yn parhau i fynd o nerth i nerth.   Drwy gynnig yr hwylustod o hedfan o’u maes awyr lleol, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu apêl gwyliau yn Fflorida i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.  Gall ein cwsmeriaid hefyd fanteisio ar nifer o fargeinion ychwanegol megis uwchraddio stafelloedd, nosweithiau am ddim a hyd yn oed gostyngiad ar docynnau i’r atyniadau.”

Bydd gan gwsmeriaid Cosmos ddewis eang o lety yn ardal Orlando yn ogystal ag Arfordir y Gwlff, o westyau a fflatiau i fannau gwyliau Disney a filas preifat gyda phwll nofio.  

Fflorida yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd gan dwristiaid o’r DU sy’n teithio ymhell ac mae’n ddewis delfrydol ar gyfer gwyliau pythefnos i deulu gydag ystod eang o atyniadau gan gynnwys Disneyworld, Seaworld ac Universal Studios yn ogystal â chanolfannau siopa a thywod gwyn y traethau syfrdanol.

Yr opsiwn dwy ganolfan yw’r ffordd orau i fwynhau gwefr a chynnwrf y parciau thema cyn ymlacio ar dywod gwyn traethau Clearwater neu St Pete Beach.  Mae Filas Cosmos yn Ardal Disney ynghyd â’r Filas Uwchraddol wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl deniadol yn Ardal Disney ac o fewn tafliad carreg i barciau thema Disney.  Mae’r filas helaeth yn gyflawn o bob dyfais ac yn cynnwys pwll nofio preifat.  Mae gwyliau 14 noson sy’n gadael Caerdydd ar 11 Mehefin 2012 yn costio o £338 y pen yn seiliedig ar chwech o bobl yn rhannu fila tair llofft ac mae’n cynnwys tocyn dwy ffordd ynghyd â’r trethi.

Mae teithiau a gwyliau ar werth yn awr drwy www.cosmos.co.uk/florida  neu drwy holl drefnwyr teithiau penodedig Cosmos.  Ffoniwch 0871 423 8592 os am fwy o wybodaeth.

Gellir gweld lluniau o’r lansio ar ein tudalen Facebook drwy glicio yma!

News menu

Fivesite Guided Creative