Cardiff Airport

Newyddion

Gwefan newydd i Faes Awyr Caerdydd

Cyhoeddwyd: 05 Ionawr 2011

Heddiw lansiodd Maes Awyr Caerdydd wefan newydd sy’n canolbwyntio ar amrywiol anghenion ymwelwyr â’r safle, sy’n hawdd ei defnyddio gydag adrannau mae modd eu haddasu gan ddefnyddwyr rheolaidd a diwyg a naws mwy cyfoes.

 Bydd parth y safle yn parhau www.tbicardiffairport.com

Bydd tudalen agoriadol y wefan yn dechrau drwy holi defnyddwyr y wefan os ydynt yn cynllunio taith, yn teithio’n fuan, yn cyfarfod a chyfarch, neu’n chwilio am wybodaeth am y maes awyr. Bydd y dewis yn arwain y defnyddiwr at y wybodaeth mae ei angen yn ogystal â mynediad i weddill y wefan os dymuna.

Mae gan y wefan well adnoddau i archebu sy’n golygu y gall ymwelwyr archebu mannau parcio, teithiau, gwyliau a llety, llogi car a mynediad i’r lolfa foethus yn uniongyrchol o wefan y maes awyr.  

Ar gyfer defnyddwyr rheolaidd y safle cynigir yr opsiwn i ddewis yr adrannau maent eu hangen drwy ddefnyddio’r botwm ‘addasu cynnwys’. Cedwir y dewisiadau yma ar gyfer ymweliad nesa’r defnyddiwr â’r wefan. 

Bydd y wefan hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu â gwefannau cymdeithasol drwy gyfrwng yr eicon rhannu a gall defnyddwyr ddewis dilyn gwasanaeth swyddogol Twitter Maes Awyr Caerdydd. 

Meddai Cassie Houghton, Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd, “Yng nghyfnod ymchwilio a datblygu’r wefan, canolbwyntiwyd ar anghenion defnyddwyr y wefan ac rydym wedi cynllunio’r safle newydd gyda’r nod yma mewn golwg. Wedi ei chwblhau, cynhaliwyd profion trylwyr ar y wefan newydd a chawsom ein calonogi’n fawr gan yr ymateb cadarnhaol a dderbyniwyd. Hyderwn y bydd ymwelwyr cyson â’r safle yn manteisio ar yr adrannau mae modd eu haddasu, gan ymweld â’r safle hyd yn oed yn fwy aml.

“Roeddem hefyd yn awyddus i ddatblygu safle mwy cyfoes sy’n cynnwys sianelau cyfryngau cymdeithasol a all hefyd gael ei ddefnyddio fel llwyfan i ddatblygu ymhellach ein rhaglenni cyfathrebu cyfryngau cymdeithasol a symudol yn ystod 2011.”     

Mae’r wefan yn ddwyieithog Gymraeg a Saesneg. 

Lansiwyd gwefannau newydd hefyd ym meysydd awyr eraill TBI abertis ym Melffast Rhyngwladol, Luton (Llundain) a Stockholm Skavsta.   Cynlluniwyd a datblygwyd pob gwefan gan Fivesite.

News menu

Fivesite Guided Creative