Cardiff Airport

Newyddion

ryder cup uscaptain

Croesawu a ffarwelio â Thîm Cwpan Ryder UDA

Cyhoeddwyd: 08 Hydref 2010

Yn gynharach yn y mis, Maes Awyr Caerdydd oedd canolbwynt sylw y byd golff pan gyrhaeddodd ac ymadawodd tîm Cwpan Ryder yr UD trwy ei byrth ar gyfer y digwyddiad golff mwyaf yn y byd, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yng Nghymru yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Cyrhaeddodd Capten yr Unol Daleithiau, Corey Pavin a’i dîm, ynghyd â swyddogion PGA  America, yng Nghaerdydd ar ddydd Llun, 27 Medi, ac fe’u croesawyd gan Gapten Cwpan Ryder Ewrop, Colin Montgomerie, Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Cyfarwyddwr y Cwpan Ryder, Richard Hills, Cadeirydd y PGA, Phil Weaver, a Chadeirydd Cwpan Ryder Cymru, John Jermine.

Roedd dros 60 o gynrychiolwyr y cyfryngau yn bresennol ar gyfer yr awyren oedd yn cyrraedd er mwyn gweld y tîm yr UD yn troedio tir Cymru am y tro cyntaf, a chynhaliwyd cynhadledd i’r wasg gan y ddau gapten yn mhrif derfynfa’r  maes awyr.

Y bwriad oedd i’r gystadleuaeth ddechrau ar ddydd Gwener, 01 Hydref gan orffen ar ddydd Sul, 03 Hydref, gyda thîm yr UD i hedfan allan ar ddydd Llun, 04 Hydref. Sut bynnag, bu’n rhaid newid trefniadau’r daith ymadael ar y funud olaf gan i’r gystadleuaeth gael ei hymestyn i bedwar diwrnod oherwydd y tywydd anffafriol.

Aildrefnwyd y daith 24 awr yn ddiweddarach nac y bwriadwyd yn wreiddiol, ac yn dilyn diweddglo gwefreiddiol ar y prynhawn Llun gadawodd tîm yr UD faes awyr cenedlaethol Cymru ar ddydd Mawrth, 05 Hydref.

Gwelwyd cynnydd ym mhrysurdeb yn maes awyr o ganlyniad i'r gystadleuaeth, gyda mwy na 65 taith ychwanegol oedd yn gysylltiedig â’r Cwpan Ryder – y mwyaf ohonynt oedd awyren siarter tîm yr UD oedd hefyd yn cario cefnogwyr a phobl adnabyddus o UDA. Gwelwyd cynnydd yn niferoedd y teithwyr ar deithiau rheolaidd hefyd yn ystod y cyfnod gan gynnwys teithiau mewnol a theithiau i feysydd awyr cysylltiol megis Paris CDG ac Amsterdam.

Meddai Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: "Roedd croesawu a ffarwelio â thîm Cwpan Ryder UDA yn y maes awyr yn brofiad cyffrous a heriol. Sicrhaodd y cyfuniad o waith caled gan y maes awyr a’n partneriaid, ynghyd â’r profiad sydd gennym o ymdrin â digwyddiadau ar raddfa fawr, fod y cyrraedd a’r ymadael ill dau wedi bod yn brofiadau llwyddiannus, di drafferth."

News menu

Fivesite Guided Creative