Penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Cyhoeddwyd: 02 Awst 2010
Cyhoeddodd Maes Awyr Caerdydd a’i berchnogion TBI abertis apwyntiad Kerry Quinn yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau maes awyr cenedlaethol Cymru.
Ymunodd Ms Quinn â Maes Awyr Caerdydd ar Orffennaf 1af o Faes Awyr Durham Tees Valley ble bu yn Gyfarwyddwr y Maes Awyr ers 2008. Yn wreiddiol o Middlesborough, ymunodd Ms Quinn â Maes Awyr Teesside yn 1999 fel Pennaeth Adnoddau Dynol cyn dilyn trywydd gweithrediadau maes awyr am y 10 mlynedd ganlynol yn yr un maes awyr (a enwyd yn ddiweddarach yn Faes Awyr Durham Tees Valley). Bu’n dal nifer o swyddi gan gynnwys Rheolwr Gweithrediadau cyn mynd drwy’r’ System Ddiogelwch, Pennaeth Gwasanaethau’r Maes Awyr a Chyfarwyddwr Gweithrediadau yn ddiweddarach.
Ms Quinn sy’n gyfrifol am reoli pob agwedd o weithrediadau Maes Awyr Caerdydd, gan sicrhau cydymffurfiaeth rheoliadol ym maes gofal a diogelwch, datblygu ymhellach alluoedd isadeiledd a gwasanaeth, a chyfrannu at ddatblygiad strategol y maes awyr. Bydd yn aelod o fwrdd y maes awyr gan adrodd yn uniongyrchol i Reolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Patrick Duffy.
Wrth gael ei phenodi dywedodd Ms Quinn, "Rydw i’n edrych ymlaen at yr her newydd a chyffrous fydd yn fy swydd ym Maes Awyr Caerdydd gan wneud yn fawr o’r cyfle sy’n bodoli gyda’r datblygiad cyfredol sy’n digwydd yn y maes awyr. Rydw i’n deall pa mor hanfodol bwysig yw’r maes awyr i Gymru ac rwyf am ymrwymo i ddatblygu enw da ac effeithlonrwydd y maes awyr ymhellach drwy’r gweithrediadau a phrofiadau’r cwsmeriaid."
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd, Patrick Duffy, "Rydym yn croesawu Kerry yn gynnes i dîm Maes Awyr Caerdydd a bydd yn cryfhau ein gwybodaeth, profiad ac arweiniad."