Cardiff Airport

Newyddion

Glanfa stage performance

Helpu talent ifanc i gyrraedd yr entrychion

Cyhoeddwyd: 04 Gorffennaf 2010

Heddiw, cyhoeddodd Maes Awyr Caerdydd a Sefydliad ei riant gwmni o Sbaen, Abertis, eu bod yn cefnogi Canolfan Mileniwm Cymru.

Bydd y cymorth hwn yn rhoi llwyfan i berfformwyr ifanc o bob rhan o Gymru ddatblygu eu talent a pherfformio yn y ganolfan gelfyddydol genedlaethol.

Cynhelir y perfformiadau dros y 12 mis nesa’ ar Lwyfan Glanfa yng nghyntedd y Ganolfan. Bydd y perfformiadau yn rhan o gyfres 'Dy Le Di' y Ganolfan o ddigwyddiadau rhyngweithiol am ddim, sy'n rhan annatod o weledigaeth y Ganolfan ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned a sicrhau bod y celfyddydau ar gael i bawb. Mae'r ymrwymiad hwn i'r gymuned, y celfyddydau a diwylliant yn adlewyrchu Rhaglen 'Touchdown' Maes Awyr Caerdydd, a gefnogir gan Sefydliad Abertis.

Dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Mileniwm Cymru:

"Mae'r Ganolfan yn ddiolchgar i Faes Awyr Caerdydd ac Abertis am eu cymorth gwerthfawr ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â hwy. Mae eu nawdd yn ein helpu i gynnal ac ehangu gweithgareddau cymunedol y Ganolfan.

"Mae'r cymorth yn adeiladu ar brosiect blaenorol i gydweithredu â'r maes awyr i ddatblygu prosiect addysgu arloesol yn seiliedig ar gynhyrchiad poblogaidd cwmni opera Mariinsky o Ring Cycle gan Wagner yn y Ganolfan yn 2006, a oedd yn cynnwys plant o ysgolion ledled De Cymru."

Dywedodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd:

"Mae'r cymorth gan Abertis, ein perchnogion a leolir yn Barcelona a Sefydliad Abertis wedi ein galluogi i noddi prosiect celfyddydol gwerthfawr yng Nghymru. Yn ogystal â chynorthwyo'r perfformiadau, bydd ein nawdd ar gyfer y fenter hon yn ariannu gweithgareddau cymunedol yn uniongyrchol ac yn gwella mynediad i'r celfyddydau yng Nghymru."

Ychwanegodd Sagrario Huelin, Pennaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Abertis:

"Mae Cymru yn genedl llawn cyfoeth diwylliannol a adlewyrchir drwy Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae'n bleser gan Abertis fod yn rhan o brosiect mor werth chweil ac edrychwn ymlaen at ddatblygu cydberthynas gynaliadwy â'r Ganolfan dros y flwyddyn i ddod."

News menu

Fivesite Guided Creative