Thomson a First Choice yn ehangu eu gwasanaethau o Faes Awyr Caerdydd
Cyhoeddwyd: 09 Gorffennaf 2012
Mwy o ddewis i Gymry sy’n chwilio am haul wrth hedfan i Malaga yr haf nesaf.
Mae Thomson a First Choice yn falch o gyhoeddi y byddant yn dyblu’r nifer o seddi fydd ar gael ar eu teithiau o Gaerdydd i Malaga yn haf drwy gyflwyno gwasanaeth ychwanegol. Bydd hyn yn golygu y bydd gan deithwyr lawer mwy o hyblygrwydd ar wasanaeth sydd eisoes yn cyrraedd cyrchfan poblogaidd.
Mae’r penderfyniad i gyflwyno gwasanaeth ychwanegol yn rhan o strategaeth trefnydd teithiau mwyaf y DU i sicrhau y gall cwsmeriaid o bob cwr o’r DU hedfan o’u maes awyr lleol ac aros yn y gwestyau gorau yn rhai o’r cyrchfannau mwyaf cyffrous. Yn ychwanegol, mae modd i gwsmeriaid ddewis gwyliau 10 neu 11 noson yn ogystal â’r rhai 7 neu 14 noson sydd eisoes ar gael ar gyfer haf 2013.
Bydd modd yn awr i gwsmeriaid sy’n hedfan o Gaerdydd fynd i aros i rai o westyau mwyaf clodfawr Thomson a First Choice sy’n ennill y marciau uchaf gan gynnwys; Pentref Gwyliau Costa Del Sol First Choice sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a hefyd Polynesia Thomson, sef gwesty thema hollgynhwysol sy’n ddelfrydol ar gyfer cyplau a hefyd teuluoedd sy’n chwilio am ddihangfa gyda thipyn o steil.
Eglurodd Paul Cooper, Rheolwr Negydu â Meysydd Awyr Thomson a First Choice:
“Mae cynyddu'r nifer y gallwn gludo i Malaga o 100% yn dangos ein hymrwymiad parhaol i Gaerdydd ac i ardal de Cymru ac rydym yn ffyddiog y bydd Malaga a’r Costa Del Sol yn parhau i fod yn boblogaidd gyda’n cwsmeriaid sy’n chwilio am heulwen haf wedi taith fer ar awyren o’u maes awyr lleol.”
Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd:
"Rydym yn hynod falch fod Thomson, ein cludwr mwyaf, wedi penderfynu cynyddu’r gwasanaeth o Gaerdydd drwy ychwanegu at y nifer o deithiau i Malaga.”
Mae Malaga yn gyrchfan hynod boblogaidd o dde Cymru, ac yn aml mae teithwyr sy’n awyddus i ymweld â’r llecyn gwyliau Sbaenaidd yma yn holi am deithiau amlach yno, felly mae cyhoeddiad Thomson eu bod am gynyddu’r rhaglen haf 2013 yn newyddion gwych i’r maes awyr ac i deithwyr yn ardal de Cymru."