Cardiff Airport

Newyddion

Disgyblion yn disgleirio mewn prosiect pasbort

Cyhoeddwyd: 08 Mai 2012

Cyflwynwyd tystysgrifau i ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Llanilltud Fawr mewn seremoni arbennig cyflwyno Pasbort yr wythnos hon.

Dros y 12 mis diwethaf bu’r disgyblion yn gweithio ar raglen bontio rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7, gyda stampiau yn cael eu rhoi yn eu ‘pasbort’ am gwblhau tasgau mewn gwersi mewn amrywiol bynciau, ac am agweddau eraill megis presenoldeb a chymryd rhan ym mywyd ehangach yr ysgol.

Dyfarnwyd tystysgrifau gwyn, efydd, arian neu aur, yn ddibynnol ar eu llwyddiant, a rhoddwyd gwobrau arbennig i ddisgyblion o bob dosbarth am ymdrech, gwelliant neu gyflawniad.

Roedd prifathrawon ysgolion cynradd yn bresennol i weld gwobrwyo cyn-ddisgyblion, ynghyd â staff Maes Awyr Caerdydd a oedd yn cyflwyno’r gwobrau.  Bu’r maes awyr yn noddi’r cynllun ers nifer o flynyddoedd, gan gefnogi disgyblion drwy ymweld ag ysgolion i hyrwyddo’r cynllun, a thrwy gynnal digwyddiadau a rhaglenni ar gyfer y disgyblion yn y maes awyr.

Agorwyd y seremoni gan ‘ddathliad talentau’, gan gynnwys perfformiadau gan fabolgampwyr, dawnswyr a cherddorion oedd yn cynnwys chwarae’r piano a’r gitâr a chanu corawl.

Y siaradwr gwadd oedd y cyn-ddisgybl Nathan Mullet, a ddywedodd wrth y disgyblion am bwysigrwydd cael nod mewn bywyd, ac i oresgyn anawsterau a wynebir ar hyd y ffordd. Pwysleisiodd Nathan bwysigrwydd manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, rhoi cynnig ar brofiadau newydd a bod ynghlwm â digwyddiadau y tu allan i’r dosbarth megis chwaraeon, drama a cherddoriaeth. Mae Nathan erbyn hyn yn rhedeg ei fusnes ei hun, sef clwb mabolgampau ger Llandw.

Meddai Catrin Elis, Uwch Swyddog Gweithredol Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd yn y digwyddiad: “Bob blwyddyn fe’n gwahoddir i fod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo fel rhan o’n nawdd i’r prosiect pasbort, ac unwaith eto eleni roedd perfformiadau disgyblion yr ysgol fel rhan o’r seremoni yn wych.

Mae’r gwaith a’r ymdrech arbennig a roddir i’r prosiect gan athrawon, rhieni ac yn enwedig y plant yn ysbrydoledig, ac rydym yn falch o allu cynnig ein cefnogaeth i’r ysgol leol hon sydd ar drothwy’r maes awyr.”

News menu

Fivesite Guided Creative