Cardiff Airport

Newyddion

Cwmnïau teithio yn hedfan o Zurich i ddysgu am Gymru

Cyhoeddwyd: 27 Ebrill 2012

Mae cwmnïau trefnu teithiau o wledydd Almaeneg eu hiaith yn dod i Gaerdydd yr wythnos hon i ddysgu beth yn union sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr.

Tîm Croeso Cymru Llywodraeth Cymru sydd wedi trefnu’r trip mewn partneriaeth â Helvetic Airways i hyrwyddo’r cyswllt newydd rhwng Zurich a Chaerdydd a denu mwy o dwristiaid.

Mae wyth cwmni yn cymryd rhan ac nid yw nifer ohonynt yn cynnwys Prydain ar eu rhaglenni ar hyn o bryd.

 

Bydd y trip yn gyfle felly inni ddangos a gwerthu Cymru fel cyrchfan wyliau unigryw.

Ar y llaw arall, mae Falcon Travel – un o gwmnïau teithiau mwya’r rhanbarth –yn hyrwyddo Cymru ar 20 o dudalennau yn eu llyfryn am Brydain.

 

Mae eu teithiau’n cynnwys teithiau cylch, teithiau mewn car rhent, teithiau cerdded, teithiau bwyd, gwestai yng Nghaerdydd, llety gwely a brecwast, gwestai gwledig a bythynnod yn y De a’r Gogledd.

 

Y farchnad darged yw Teithwyr Annibynnol a grwpiau.

Meddai’r Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud y gorau o’r cyswllt rhwng Zurich a Chaerdydd a’i hyrwyddo ymhlith pobl ar wyliau ac ymwelwyr busnes.

“Rwy’n falch o fedru cael cefnogi’r ymweliad hwn.

 

Bydd yn rhoi blas i gwmnïau teithiau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig yng Nghymru – ei hanes, ei threftadaeth a’i diwylliant, amrywiaeth o weithgareddau hamdden a golygfeydd a thirluniau hardd a thrawiadol.

 

I lawer ohonynt, hwn fydd eu hymweliad cyntaf ac mae’n gyfle rhagorol i hyrwyddo Cymru a dangos mor hawdd yw dod yma yn sgil lansio’r cyswllt rhwng Zurich a Chaerdydd llynedd.”

Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Awyr Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn disgwyl ymlaen at groesawu’r trefnwyr teithiau i Gymru er mwyn iddyn nhw gael gweld drostyn nhw’u hunain yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i’r farchnad wyliau a busnes.

“Mae canran uchel o’r rheini sy’n hedfan o Zurich i Gymru yn dwristiaid, ac rwy’n gobeithio y bydd y trip hwn yn addysgu’r trefnwyr teithiau er mwyn iddyn nhw allu gwerthu Cymru i fwy o deithwyr.”

Noddir y daith gan Cardiff & Co and Southern Wales sydd wedi helpu i lunio’r rhaglen sy’n cynnwys ymweliadau â chestyll, safleoedd treftadaeth, gwestai a thai bwyta yn ogystal â chyfle i fwynhau canolfan siopa Caerdydd a Bae Caerdydd.

News menu

Fivesite Guided Creative