Cardiff Airport

Newyddion

barcelona oct11

Vueling ar fin glanio yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2012

Bydd Vueling, prif gwmni hedfan pris isel Sbaen, yn glanio yng Nghymru mewn tri diwrnod pan fydd y daith gyntaf o Barcelona yn cyrraedd Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Bydd gwasanaeth Vueling i Barcelona yn gweithredu tair gwaith yr wythnos o ddiwedd Mawrth, a bydd lleoliadau twristaidd poblogaidd Alicante a Palma yn cael eu hychwanegu at yr amserlen o Gaerdydd ym Mehefin 2011, gyda thri gwasanaeth wythnosol i bob lleoliad.

I ddathlu lansio’r gwasanaeth mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig parcio yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid sy’n archebu tocynnau i hedfan i Barcelona.

Gwasanaeth Caerdydd-Barcelona yw gwasanaeth uniongyrchol cyntaf Vueling o’r DU i gartref y cwmni awyrennau, ac mae cysylltiadau ar gael o’r ganolfan yn Barcelona i fwy na 45 cyrchfan arall. 

Meddai Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan a Gweithrediadau Masnachol Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r gwasanaeth newydd o Gaerdydd, ac yn falch o allu cynnig gwerth am arian ychwanegol i’n cwsmeriaid drwy gynnig parcio rhad ac am ddim yn y maes awyr.

Mae’r gwasanaethau eisoes yn boblogaidd gyda theithwyr, ac rydym yn sylwi fod pobl yn archebu teithiau cysylltiol – gyda dinasoedd yn yr Eidal megis Rhufain, Milan a Fenis ymysg y rhai mwyaf poblogaidd.  

Mae’r cwmni awyrennau yn cynnig prisiau ardderchog a gwir fargeinion i gwsmeriaid sy’n chwilio am deithiau uniongyrchol neu rai cysylltiol o Gaerdydd ym misoedd Ebrill a Mai, sy’n ddelfrydol ar gyfer cwsmeriaid sydd am gael gwyliau tramor byr dros wyliau banc y gwanwyn.”

I ddathlu lansio’r gwasanaeth newydd, bydd Maes Awyr Caerdydd yn darparu parcio rhad ac am ddim i bob cwsmer sy’n archebu tocyn ar deithiau Vueling o Gaerdydd i Barcelona rhwng 23 Mawrth 2012 a 30 Ebrill 2012, ac sy’n teithio rhwng 29 Mawrth a 31 Mai 2012.

Mae tocynnau Caerdydd-Barcelona ar gael yn awr ac yn dechrau o gyn lleied â £29 (€35) ac mae modd eu harchebu ar

www.vueling.com

neu gan eich trefnydd teithiau lleol.

Ar ôl i gwsmeriaid archebu tocyn, gallant hawlio parcio am ddim drwy glicio yma.

News menu

Fivesite Guided Creative