Vueling yn cyhoeddi mwy o deithiau o Gaerdydd i Barcelona dros y Pasg
Cyhoeddwyd: 22 Chwefror 2012
Cyhoeddodd Vueling, prif gwmni hedfan cost isel Sbaen, y bydd mwy o seddau ar gael ar eu hawyrennau o Gaerdydd i Barcelona dros gyfnod y Pasg.
Yn ychwanegol i’r gwasanaeth tair gwaith yr wythnos (Mawrth, Iau a Sadwrn) a fydd yn dechrau ar 27 Mawrth, bydd Vueling hefyd yn rhedeg gwasanaeth ychwanegol ar ddydd Gwener y Groglith, 6 Ebrill ac un arall ar ddydd Llun y Pasg, 9 Ebrill, gan roi’r cynnig i deithwyr fanteisio ar y gwyliau hwy.
Y mis diwethaf cyhoeddodd Vueling ei fod am gynyddu’r cyrchfannau oedd ar gael o Faes Awyr Caerdydd yn haf yma drwy ychwanegu dau leoliad newydd, Alicante a Palma, Mallorca gyda gwasanaeth rheolaidd yn gweithredu tair gwaith yr wythnos ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sul.
Y teithiau o Gaerdydd i Barcelona yw gwasanaeth uniongyrchol cyntaf Vueling o’r DU i ganolfan gartref y cwmni awyrennau. Mae’r teithiau ychwanegol ym mis Ebrill yn sicrhau mai Barcelona yw’r gyrchfan ddelfrydol ar gyfer gwyliau byr dros y Pasg. Yn enwog am ei atyniadau diwylliannol a gastronomaidd, mae Barcelona, prifddinas rhanbarth Catalonia yn Sbaen, yw un o gyrchfannau gwyliau byr, dinesig, mwyaf poblogaidd Ewrop sy’n cynnwys golygfeydd diwylliannol yn amrywio o bensaernïaeth Gaudi, sy’n cynnwys y chwedlonol Sagrada Familia sy’n anorffenedig hyd yma, i Montjuic sy’n gartref i brif amgueddfa’r byd am waith Miró. Mae cyfle i deithwyr brofi danteithion blasus ym marchnad Boqueria yn ogystal â mewn bwytai a ysbrydolwyd gan Ferran Adrià. Ar gyfer adar y nos, mae ardal el Born yn cynnig popeth o fwytai ffasiynol i glybiau nos trendi, tra bo’r Ramblas yn cynnig bariau nodweddiadol Catalanaidd.
O 24 Mehefin ymlaen bydd amserlen Caerdydd – Barcelona yn newid i ddyddiau Mawrth, Gwener a Sul er mwyn addasu i’r diddordeb cynyddol yn y farchnad fordeithiau sydd wedi’i sefydlu yn Barcelona. Gweithredir pob gwasanaeth gan awyren 150 sedd Airbus A319.
Mae teithiau Vueling yn cynnig toreth o gysylltiadau pellach yn sgil gweithrediadau llwyddiannus Vueling yng nghanolfan Maes Awyr Barcelona, sydd ar hyn o bryd â chysylltiad â mwy na 40 cyrchfan yn Ewrop a gogledd Affrica, megis Ynysoedd Groeg, Malaga neu Ibiza, gyda gwasanaeth checio bagiau i mewn ym Maes Awyr Caerdydd drwodd i’r lleoliad terfynol.
Bydd pris tocyn ar y gwasanaeth Caerdydd – Barcelona yn dechrau o tua £26 (30€) ac mae modd archebu’r tocynnau ar www.vueling.com, trwy drefnwyr teithiau, trwy wasanaeth iPhone ac Android Vueling neu’r porth symudol m.vueling.com, a hefyd drwy ffonio canolfan alwadau’r DU ar 0906 754 7541.