Diwygio amseroedd teithiau rhanbarthol Aer Lingus
Cyhoeddwyd: 01 Chwefror 2012
Aer Arann yn cyhoeddi diwygio amseroedd Amserlen Haf Ranbarthol Aer Lingus o Faes Awyr Caerdydd
Heddiw cyhoeddodd Aer Arann fanylion amserlen hedfan ranbarthol Aer Lingus ar gyfer haf 2012 sy’n dangos fod gwasanaeth poblogaidd rhanbarthol Aer Lingus rhwng Caerdydd a Dulyn yn parhau i gynnig 13 taith yr wythnos ond bydd teithwyr yn elwa o amseru gwell a chysylltiadau gwell rhwng Dulyn a’r Unol Daleithiau.
Mae gwasanaeth rhanbarthol Aer Lingus Caerdydd i Ddulyn yn gweithredu ddwywaith y dydd; heblaw ar ddyddiau Sadwrn pan fydd ond un daith. Mae gwasanaeth boreol o Gaerdydd am 11:45 ac un gyda’r hwyr yn gadael am 20:45 gyda’r gwasanaeth yn dychwelyd o Ddulyn yn y bore am 10:10 ac yn yr hwyr am 19:10. Mae prisiau’r daith yn dechrau o £31.99 un ffordd sy’n cynnwys trethi ac mae modd archebu drwy ymweld â www.aerlingus.com.
Wrth wneud ei sylwadau ar amserlen haf 2012, dywedodd Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Aer Arann, Andrew Kelly, “Mae Aer Arann wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cysylltu rhanbarthol hawdd, cyfleus sy’n cynnig gwerth gwych am arian. Bydd cyflwyno’r gwasanaethau newydd, amlach yma yn dod â hwb i’w groesawu i dwristiaeth yn y ddwy ardal a byddant o fudd sylweddol i deithwyr busnes. Rydym yn edrych ymlaen at groesau ein teithwyr ar fwrdd holl wasanaethau rhanbarthol Aer Lingus yr haf yma.”
Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethu Hedfan Maes Awyr Caerdydd: “Mae gwasanaethau Aer Arann o Gaerdydd yn darparu gwasanaeth gwych i deithwyr o Gymru ac rydym yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd amserlen haf 2012 yn llawer mwy cyfleus i deithwyr ar eu ffordd i Ddulyn ac ymlaen i’r Unol Daleithiau.
“Bydd yr amseroedd diwygiedig nawr yn caniatau i deithwyr dreulio diwrnod ar fusnes yn Nulyn neu Gaerdydd, a bydd y cysylltiadau pellach a’r cyfleustra a gysylltir â Dulyn wrth fynd trwy’r adran fewnfudo yn apelio at deithwyr busnes a hamdden, fydd yn cynnig ffordd arall i’r farchnad gyrraedd yr Unol Daleithiau o’u maes awyr lleol. Rydym yn annog teithwyr i fanteisio ar yr arbedion amser ac arian sydd ar gael wrth deithio o Gaerdydd i Iwerddon a’r Unol Daleithiau.”
Wrth groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd Declan Kearney, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Aer Lingus, “Rydym wrth ein bodd yn gweld gwasanaethau rhanbarthol Aer Lingus yn mynd o nerth i nerth ac rydym yn dymuno i lwyddiant Aer Arann barhau wrth iddyn nhw weithredu’i gwasanaethau newydd, ynghyd â’r rhai sy’n bodoli eisoes, yn haf 2012.”