Cynllun y Maes Awyr yn gwneud y job!
Cyhoeddwyd: 17 Ionawr 2011
Mae Maes Awyr Caerdydd a chwmnïau partner yn cynnig cyfle i weithwyr gael blas ar wahanol adrannau o fewn y busnes trwy gynllun ‘cyfnewid swydd’.
Nod y prosiect yw i fanteisio ar y cyfnod tawelach dros y gaeaf trwy roi cyfle i staff o wahanol gwmnïau gael gweld sut mae gwahanol bartneriaid ym Maes Awyr Caerdydd yn gweithredu o ddydd i ddydd. Bydd y cyllun yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol gwmnïau ar y safle, a’r bwriad yw i gryfhau perthnasau, cyd-weithio a chyfathrebu yn fewnol.
Y cwmnïau fydd yn rhan o’r cynllun eleni fydd:
- Maes Awyr Caerdydd (Asiantau Gwasanaethau Cwsmeriaid)
- Servisair (Gwasanaethau Teithwyr, Gweithrediadau, Desg docynnau a Ramp)
- NATS (Gweithrediadau traffig awyr, y Tŵr a’r Ramp)
- MITIE (Cymorth arbennig a gweithrediadau glanhau)
Meddai Margaret James, rheolwraig contractau a safonau Maes Awyr Caerdydd am y cynllun: “Mae hwn yn brosiect gwych gan ei fod yn rhoi cyfle i staff o wahanol rannau o’r busnes i ddeall gofynion gwahanol swyddi o fewn y maes awyr.
Yn aml dydi teithwyr ddim yn sylweddoli bod cymaint o wahanol gwmnïau yn cyd-weithio i gynnig y gwasanaethau y maent yn eu profi wrth fynd trwy’r maes awyr. Bwriad y cynllun hwn yw i wella sgiliau gweithio mewn tîm ac i adeiladu ar yr amcanion a’r targedau yr ydym yn eu rhannu er mwyn gwella’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig i’n teithwyr.”