Cardiff Airport

Cymuned

Rhaglen 'Touchdown' y maes awyr

community1

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn ymdrechu i wneud cyfraniad arbennig i'r gymuned trwy sefydlu partneriaethau effeithiol ynghyd â rhaglenni sy’n gwneud y defnydd gorau o gryfderau a galluoedd ein staff.

Daw pob gweithgaredd cymunedol o dan adain ‘Rhaglen Touchdown Maes Awyr Caerdydd’ a bydd yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol;

  • Cefnogaeth Elusennol 
  • Y Gronfa Gymunedol 
  • Y Rhaglen Addysgu 
  • Cyswllt Cymunedol  

Bydd y rhaglen yn cael ei chydlynu gan ‘Pwyllgor ‘Touchdown’.  

Bydd nifer o egwyddorion sylfaenol yn sail i’n holl weithgaredd sy’n ymwneud â buddsoddi yn y gymuned sef:

  • Cynnal a chefnogi cynlluniau cymunedol ac elusennau sy’n ymochri â’n hamcanion strategol ac sy’n hybu ein gallu gweithredol a chyfoethogi ein henw da
  • Arddangos safon yn sgîl y partneriaid a’r gweithgareddau y byddwn ynghlwm â nhw, safon yn y berthynas y byddwn yn ei sefydlu a safon y dylanwad a welir o’r hyn y byddwn yn ei gefnogi
  • Rhoi blaenoriaeth i bobl yn sgîl natur ac ansawdd y cynlluniau y byddwn yn ymwneud â nhw
  • Cael perthynas sefydlog gyda’n partneriaid a chefnogi gweithgareddau fydd yn cael dylanwad parhaol, hirdymor a fydd yn arwain at welliant sylweddol a chyson yn amgylchiadau pobl
  • Ymdrechu gyda’n gweithgareddau i sicrhau tegwch a chydbwysedd daearyddol trwy Gymru benbaladr ond gan ganolbwyntio ar y dalgylch graidd yn ne Cymru
  • Ymdrechu i gefnogi rhaglenni hollgynhwysol eu natur sydd yn addas ar gyfer pob cefndir cymdeithasol

Ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn cynnig cefnogaeth i unigolion neu grwpiau sydd â chysylltiadau gwleidyddol neu grefyddol.

 
Fivesite Guided Creative