Cardiff Airport

Gwasanaethau cwsmeriaid

csa

Mae gan Faes Awyr Caerdydd Gynorthwywyr Gweithrediadau yn y derfynfa sy’n gweithio i wella gwasanaethau cwsmeriaid i deithwyr.

Mae’r cynorthwywyr wedi disodli’r Ddesg Wybodaeth, a bydd y tîm yn fwy rhyngweithiol a symudol, gan sicrhau y byddant ar gael ac yn gymwys i ymdrin â gofynion bob dydd y teithwyr.

Bydd modd cysylltu ag aelodau’r tîm o naw safle o fewn y derfynfa a byddant yn gallu cyhoeddi datganiadau a gwybodaeth am awyrennau drwy unedau tanoi symudol.  Bydd pob Cynorthwyydd Gweithrediadau’r Maes Awyr wedi’i hyfforddi i gynnig cymorth cyntaf. 

Os oes angen cymorth arnoch pan yn teithio trwy’r maes awyr edrychwch am un o’r naw man galw gwasanaethau cwsmeriaid sydd wedi eu lleoli trwy’r derfynfa, a chodwch y ffôn i siarad ag un o’r tîm.

Bydd switsfwrdd y maes awyr yn parhau yn weithredol ar gyfer galwadau ffôn allanol.

 
Fivesite Guided Creative